#

P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru
Y Pwyllgor Deisebau | 1 Hydref 2019
 Petitions Committee | 1 October 2019
 

 

 

 


Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-898

Teitl y ddeiseb:

Geiriad y ddeiseb: Deiseb i wahardd y defnydd o fyrddau A ar gyfer hysbysebu yng Nghymru. Mae byrddau A yn gwneud ein palmentydd yn anniben ac maent hefyd yn peri risg enfawr i bobl anabl gan eu bod yn golygu yn aml fod rhaid i bobl mewn cadair olwyn neu bobl â nam ar eu golwg fynd ar yr heol er mwyn mynd heibio iddynt.

Mae hyn yn broblem yn arbennig mewn mannau a rennir, megis canol dinasoedd, yn ogystal ag mewn trefi arfordirol lle mae'r palmentydd yn gulach.

Cefndir

Mae 'byrddau A' yn fyrddau hysbysebu cludadwy sy’n cael eu gosod y tu allan i fusnesau ac adeiladau eraill.  Mae eu defnydd yng Nghymru yn cael ei reoleiddio drwy'r broses gynllunio a thrwy’r gyfraith sy’n ymwneud â phriffyrdd.

O safbwynt cynllunio, ymdrinnir â materion hysbysebu yn gyffredinol drwy ddeddfwriaeth a pholisi.  Yng Nghymru, mae’r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992 (fel y'i diwygiwyd) (y Rheoliadau), sef rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn berthnasol.

Yn ogystal, mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli hysbysebion awyr agored wedi’u nodi yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 7: Rheoli Hysbysebion Awyr Agored (1996), ac maent yn cael eu hategu gan ddau gylchlythyr cynllunio: cylchlythyr 14/92 a chylchlythyr 70/94.

Mae'r Rheoliadau'n nodi pum amod safonol yn Atodlen 1 sy'n berthnasol i bob hysbyseb: eu bod yn cael eu cynnal mewn cyflwr glân a thaclus; eu bod yn ddiogel; bod ganddynt ganiatâd perchennog y safle; nad ydynt yn cuddio rhai arwyddion swyddogol; a'u bod yn cael eu symud yn ofalus lle bo angen gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Yn fwy cyffredinol, mae'r Rheoliadau'n nodi’r ffaith na ellir arddangos hysbysebion heb 'gydsyniad penodol' yr awdurdod cynllunio, oni bai:

·         eu bod yn syrthio i un o’r 10 categori o hysbysebion, a nodir yn Atodlen 2, sydd fel arfer wedi'u heithrio o reolaeth yr awdurdod cynllunio lleol – er enghraifft, hysbysebion ar dir caeedig fel y tir sydd yn gorwedd o fewn gorsaf fysiau neu orsaf reilffordd;

·         eu bod yn hysbysebion sydd â 'chydsyniad tybiedig' awtomatig, yn rhinwedd y ffaith eu bod yn syrthio i un o’r 14 o gategorïau a nodir yn Atodlen 3. Mae'r rhain yn cynnwys hysbysebion (gan gynnwys byrddau A) sydd yng nghwrt blaen adeilad busnes ac sy'n ymwneud â'r busnes hwnnw, rhai hysbysebion dros dro, hysbysiadau bach fel enw cwmni sy'n cael eu harddangos ar y safle, ac ati.

Yn y ddau achos, mae hysbysebion ym mhob categori yn aml yn ddarostyngedig i ofynion sy'n ymwneud, er enghraifft, â’u maint cyffredinol neu faint y llythrennau arnynt, neu a ellir eu goleuo, ac ati.

Oni bai bod y bwrdd A yn syrthio i un o'r categorïau hyn, bydd angen cydsyniad penodol yn ei gylch. Fodd bynnag, mae Rheoliad 4 yn nodi y bydd yr awdurdod cynllunio lleol dim ond yn arfer ei bwerau er mwyn amwynder a diogelwch y cyhoedd.

Yn ogystal â'r broses gynllunio, mae angen caniatâd y cyngor perthnasol ar fyrddau sydd ar briffyrdd, gan gynnwys troedffyrdd, o dan a115E o Ddeddf Priffyrdd 1980.  Mae adran 130 o'r Ddeddf hefyd yn gosod y dyletswydd a ganlyn ar awdurdodau priffyrdd, gan gynnwys awdurdodau lleol fel yr awdurdodau priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd lleol:

… to assert and protect the rights of the public to the use and enjoyment of any highway for which they are the highway authority, including any roadside waste which forms part of it.

 

Mae adran 130 hefyd yn gosod dyletswydd ar gynghorau i atal, cyn belled ag y bo modd, unrhyw rwystrau i unrhyw briffordd. Mae rhwystro'r briffordd yn fwriadol yn drosedd o dan adran 137 o'r Ddeddf.

 

Effaith Byrddau A

Mae'r defnydd o fyrddau A wedi cael ei feirniadu gan ystod o sefydliadau. Er enghraifft, dyma’r sylwadau a geir ar wefan yr RNIB:

By their very nature A-boards obstruct pedestrians from being able to move in a straight line along the pavement. They present a trip and collision hazard, especially to people who cannot see them and who use mobility aids.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015 – Who Put That There: the barriers to blind and partially sighted people getting out and about – mae’r RNIB yn olrhain tystiolaeth sy’n yn dangos pa mor anniogel y gall cymdogaethau lleol ac amgylchedd y stryd fod i'r rhai sydd wedi colli eu golwg. Er ei fod yn canolbwyntio ar Loegr, mae’r adroddiad yn ystyried ystod o rwystrau a materion eraill, gan gynnwys byrddau A.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at arolwg a gynhaliwyd gyda thros 500 o bobl ddall a rhannol ddall yn Lloegr. Dangosodd yr arolwg hwnnw fod 49 y cant o’r bobl dan sylw wedi taro i mewn i fyrddau A yn ystod y tri mis blaenorol. Galwodd yr RNIB am adolygiad o’r canllawiau cenedlaethol, gan ddatgan y dylid eu cryfhau. Galwodd hefyd am gamau i weithredu siarter stryd ar lefel leol, ac am adolygiad gan awdurdodau lleol o’r polisïau sy’n gysylltiedig â’r rhwystrau mwyaf cyffredin, gan gynnwys byrddau A. 

Mae materion yn ymwneud ag 'annibendod stryd' hefyd wedi cael eu codi gan Living Streets, a hynny drwy ei ymgyrch Pavements for People, a chan sefydliad Guide Dogs, drwy ei ymgyrch Streets Ahead.

Ym mis Mai 2018, cymeradwyodd Pwyllgor Trafnidiaeth ac Amgylchedd Cyngor Caeredin waharddiad ledled y ddinas ar yr holl strwythurau hysbysebu dros dro a geir ar y stryd, fel byrddau hysbysebu. Daeth y gwaharddiad i rym ym mis Tachwedd 2018.  Yn flaenorol, roedd gan y cyngor bolisi yn gwahardd y defnydd o strwythurau hysbysebu ar bedair stryd ddethol yng nghanol y ddinas.  Roedd Living Streets ac RNIB yn rhan o'r ymgyrch dros y gwaharddiad, a nododd Living Streets fod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiant.

Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2018, cyn i’r penderfyniad gael ei gymeradwyo, cyhoeddodd Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yn yr Alban friff ar gyfer Cyngor Caeredin ynghylch y gwaharddiad arfaethedig.  Nododd yr adroddiad fod llawer o fusnesau lleol yn 'cydymdeimlo' â'r nod o leihau annibendod ar y strydoedd. Fodd bynnag, amlygodd y papur ystod o rwystrau, gan gynnwys: dodrefn stryd, gwastraff symudol a biniau ailgylchu, cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfrifol ac yn anghyfreithlon, yn ogystal â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â masnach fel mannau bwyta ac yfed ar y stryd, nwyddau a byrddau hysbysebu.

Dywedodd fod yn rhaid i’r Cyngor fabwysiadu dull cyfannol yn hytrach na chanolbwyntio ar un agwedd ar y broblem yn unig.

Mae'r adroddiad yn cynnwys tystiolaeth gan fusnesau lleol sy'n pwysleisio pwysigrwydd byrddau A o ran sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol bod y busnes yn bodoli, gan gynnwys y dyfyniadau a ganlyn gan aelodau'r FSB:

“[A] ban could prove a significant blow to many struggling small businesses throughout Edinburgh.” – Aelod o'r FSB

“This will have a detrimental effect on small shops, cafes and galleries.” – Aelod o'r FSB

“The ban on A-boards would I am sure be the final nail in many small business's coffin.” – Aelod o'r FSB

“It is tough as hell having a business in a basement - customers can't find you, don't notice you and don't look down at your shop when they are walking along the road.  

My A-board brings me ALL the footfall that I get.  Customers constantly tell me they only noticed us because they saw our sign.” – Aelod o'r FSB

 

Y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd

Mae llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd yn tynnu sylw at adrannau 130 a 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (trafodwyd uchod).

Mae'n dweud:

I am not convinced that there is sufficient evidence to suggest a need for specific and further action at a national level.  In cases where A boards are being deployed irresponsibly, then there is capacity to deal with these at a local level and through the enforcement of existing regulations.

Mae'r Gweinidog yn tynnu sylw at a cyllid a ddyrannwyd gan  Lywodraeth Cymru i Anabledd Cymru er mwyn galluogi’r sefydliad i weithredu fel y corff sy’n cynrychioli pobl anabl a'u sefydliadau yng Nghymru. Mae hefyd yn nodi:

The Disability Equality Forum, of which the Deputy Minister and Chief Whip is the Chair, will consider this issue at the next meeting in the autumn.

Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ymddengys nad yw’r Cynulliad eisoes wedi ystyried y defnydd o fyrddau A at ddibenion hysbysebu.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.